TEITL |
Datganiad ar gynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru |
DYDDIAD |
26 Hydref 2023 |
GAN |
Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad |
Ym mis Gorffennaf, rhoddais adroddiad ar gynnydd gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Cyfarfu'r Prif Weinidog, arweinydd Plaid Cymru a minnau â'r Athro Laura McAllister y mis hwn i gael diweddariad rheolaidd ar waith parhaus y Comisiwn.
Dyma'r adroddiad cynnydd a dderbyniwyd gan y Cyd-gadeiryddion.
Bydd y Comisiwn yn gorffen ei waith erbyn diwedd y flwyddyn a bydd ei adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar ôl i’r Senedd ddychwelyd o’r toriad ym mis Ionawr 2024.